Mae translations group yn rhwydwaith o gyfieithwyr uchel eu cymwysterau a phrofiadol gyda chefndiroedd cryf mewn gwyddoniaeth, meysydd technegol a busnes.
Gallwn ymgymryd â gwaith mewn unrhyw bwnc, ond ein harbenigedd yw cyfieithu a golygu gwyddonol a thechnegol.
Yr ydym yn cydnabod pwysigrwydd cwblhau gwaith o fewn cyfyngiadau amser tynn a byddwn yn gwneud pob dim a allwn i'ch cynorthwyo chithau i wneud yr un peth.
Gwaith cyflym a phroffesiynol gan gyfieithwyr uchel eu cymwysterau
Sefydlwyd translations group gan dîm o gyfieithwyr a golygyddion sy'n cydweithio ers nifer o flynyddoedd.
Mae gennym arbenigedd mewn amrywiaeth eang tu hwnt o feysydd gwyddonol a diwydiannol ac felly gallwn ddarparu lefel o gywirdeb manwl heb ei hail am brisiau cystadleuol.
Ar ben hynny, rydym yn ymwybodol o brofiad uniongyrchol o bwysigrwydd cwblhau gwaith erbyn amser penodedig, a byddwn yn gwneud pob dim a allwn i sicrhau eich bod chithau'n gallu bod yn brydlon hefyd.
Mae translations group yn cynnig i chi rwydwaith o gyfieithwyr a golygyddion uchel eu cymwysterau mewn gwahanol wledydd o gwmpas y byd.
Dr Alicia Moguilevsky, BSc, UBA, Yr Ariannin; MSc a PhD, Cymru. Mae graddau a phrofiad gwaith Dr
Moguilevsky yn cynnwys gwahanol agweddau ar Wyddorau Sŵolegol, Bioleg Fôr
a
Sytogeneteg. Mae wedi ysgrifennu, cyfieithu a golygu papurau gwyddonol
yn Saesneg a Sbaeneg ac wedi gweithio fel cyfieithydd llawrydd i nifer
o gylchgronau gwyddonol.
Mae hefyd yn diwtor rhan-amser yn Adran Ieithoedd Ewropeaidd Prifysgol Cymru Aberystwyth
Dr Martin Angel, MA, Gwyddorau Naturiol, Caergrawnt; PhD, Bryste
Yn ymchwilydd profiadol ac yn awdur, mae gwaith Dr Angel yn ymdrin
â
gwahanol agweddau ar Fioleg ac Ecoleg Forol, Eigioneg a Bioamrywiaeth y
Cefnforoedd.
Ef yw prif awdur Adran Statws Ansawdd OSPAR ac mae ganddo 22 o flynyddoedd o brofiad golygyddol fel cyd-olygydd Progess in Oceanography.
Yr Athro Neil Jones, BSc, PhD, DSc (Cymru), FIBiol, CBiol
Mae gan yr Athro Jones raddau mewn Gwyddoniaeth Blanhigion a Geneteg ac
mae'n ymchwilydd profiadol mewn geneteg blanhigion ac yn
awdur/cyd-awdur chwe gwerslyfr a thros gant o bapurau ac adolygiadau
mewn cylchgronau.
Mae ganddo brofiad helaeth fel canolwr ac asesydd i nifer o gylchgronau a chyrff ymchwil rhyngwladol ac mae ganddo brofiad golygyddol helaeth wrth weithio â chymheiriaid academaidd mewn ieithoedd eraill.
Dr Cedric Mortimer OBE, BSc, PhD, (Coleg Prifysgol Llundain), FRGS, FIMMM
Daearegwr, daearyddwr, ymchwilydd ac anturiwr yw Dr Mortimer, yn arweinydd
prosiectau datblygu uchel eu bri a gefnogir gan wledydd Prydain (Adran
Datblygu Rhyngwladol (DFID)) ac yn rhyngwladol yn ne-ddwyrain Asia, de
America, y Dwyrain Canol, Affrica a de'r Môr Tawel.
Mae'n cyfarwyddo ymchwil, anturio ac arolygu atraeth ac alltraeth gan ddarparu hyfforddiant technegol mewn gwasanaeth a golygu Saesneg i'w gydwyddonwyr o lawer iawn o wahanol ddiwylliannau.
Mae translations group yn ymroi i gynhyrchu cyfieithiadau o safon uchel, yn bennaf rhwng y Saesneg ac ieithoedd eraill, y ddwy ffordd. Yr ydym hefyd yn darparu gwasanaeth golygu a darllen proflenni ar gyfer testunau mewn rhychwant o ieithoedd.
Gwasanaeth o safon uchel am brisiau tra chystadleuol
Dylid anfon llawysgrifau atom fel ffeiliau atodiad drwy e-bost (heb feirysau!).
Anfonwch hwy fel dogfen Word lle mae hynny'n bosibl. O dan rai amgylchiadau gallwn dderbyn llawysgrifau drwy ffacs neu'r post.
Yr ydym yn deall yr angen i weithio o fewn cyfyngiadau amser tynn a cheisiwn anfon pob gwaith yn ôl cyn gynted ag y bo modd.
Yr ydym yn sicrhau'r safonau proffesiynol uchaf posibl hyd yn oed yn y meysydd mwyaf arbenigol diolch i'n rhwydwaith byd-eang o ymgynghorwyr.
Gwarentir cwblhau gwaith yn gyflym ac yn broffesiynol
Mae'r amser a gymerir i gyfieithu neu i olygu papur yn dibynnu ar ei hyd, ei lefel o gymhlethdod a'i arddull. Oherwydd hynny, mae ein graddfeydd am gyfieithu yn hyblyg, gan ddibynnu ar anghenion pob cwsmer unigol.
Codir am gyfieithu ar sail graddfa am bob 1000 o eiriau; codir am olygu a darllen proflenni yn ôl graddfa'r awr.
Codir lleiafswm o £55 am bob darn o waith yr ymgymerir ag ef.
Mae ein graddfeydd ni yn gystadleuol iawn. Nodwch, os gwelwch yn dda, y gallwn ddarparu amcangyfrif pris llawn ar ôl derbyn eich testun, os dymunir hynny.
Gellir darparu amcangyfrifon ar ôl i'r deunydd gael ei dderbyn
Am wybodaeth bellach am ein gwasanaethau neu i anfon llawysgrif, cysylltwch â
Os ydych yn rhugl mewn 2 iaith neu fwy ac os oes gennych
ddiddordeb
mewn gweithio gyda ni fel cyfieithydd neu olygydd, danfonwch eich
curriculum vitae at
Dr Alicia Moguilevsky at:
<info@translations-group.com>
Yr ydym yn croesawu eich ymholiadau a'ch sylwadau